Tocynnau rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop

Kieran LewisNewyddion

Gyda miloedd o gefnogwyr yn gwneud y daith i Ddulyn ar gyfer rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop, ar ddydd Sadwrn 21ain Ebrill cic gyntaf 3.30pm, ry’n ni’n falch iawn cadarnhau ein bod ni yn awr mewn safle i rannu manylion tocynnau ar gyfer y gêm.

Fe fydd Dalwyr Tocyn Tymor a Noddwyr y Scarlets yn cael cyfle i brynu’r tocynnau ar gyfer y rownd cyn derfynol, yn erbyn Leinster, o 2pm dydd Iau 5ed Ebrill tan 9am dydd Sul 8fed Ebrill.

Fe fydd tocynnau’n cael eu gwerthu fesul system cyntaf i’r felin gyda nifer o docynnau ar gael mewn sawl categori ar draws y stadiwm. Yn anffodus does dim pris tocyn plentyn.

Mae’r rownd gyn derfynol yn ddigwyddiad sydd o dan reolaeth EPCR a hwy sy’n reoli dyarniad tocynnau’r Scarlets.

Fe fydd gweddill y tocynnau sydd yn nyraniad y Scarlets yn mynd ar werth i gefnogwyr y Scarlets am 9am dydd Sul 8fed Ebrill. Fe fydd unrhyw docynnau sy’n weddill yn cael gwerthu gan EPCR / Stadiwm Aviva o ddydd Iau 12fed Ebrill.

I gofrestru eich cyfrif Tocyn Tymor cliciwch yma. Fe fyddwch chi’n derbyn y linc o fewn 24 awr i gofrestru.

I danysgrifio i’r e-gylchlythyr cliciwch yma

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac ar gyfer 2018-19 er mwyn sicrhau buddion arbennig. Mae Tocynnau Tymor ar gael am bris rhatach tan 30ain Ebrill. Fe fydd pob sedd yn cael eu rhyddhau ar 1af Mehefin.

Mae manylion prisiau a dyddiadau Tocynnau Tymor ar gael ar scarlets.cymru/tocynnautymor