TOCYNNAU TYMOR 2025-26 AR WERTH NAWR

Rob LloydNewyddion

Dewch Scarlets, hen ac ifanc, dewch i’r gâd! Mae’n hysbryd ar dân ac mae’n amser i ni ddod at ein gilydd ar gyfer tymor 2025-26!

Llwyddodd y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth holl bwysig o 23-22 dros y Vodacom Bulls ym Mharc y Scarlets ym mis Hydref, gyda pherfformiad syfrdanol a cheisiau unigol gwych gan yr asgellwyr Blair Murray a Tom Rogers.

Dyma oedd cychwyn cyfnod arbennig yn y Parc y Scarlets gyda chwe buddugoliaeth o’r chwe gêm gartref diwethaf, y mwyaf diweddar yn erbyn Caeredin ym mis Ionawr.

Boed eich bod yn ddaliwr tocyn tymor ers cyfnod, neu’n ymuno â ni am y tro cyntaf, mae tymor nesaf yn addo bod yn un gwefreiddiol o dan arweiniad arwyr ifanc a chyffrous y Scarlets.

Fe fydd Tocyn Tymor y Scarlets, boed yn eistedd neu’n sefyll, yn sicrhau eich bod chi reit yng nghanol y cyffro.

DYDDIADAU PWYSIG

  • Adnewyddwch / prynnwch eich Tocyn Tymor cyn ddydd Llun 31ain Mawrth ac fe wnewn ni hepgir y ffi archebu o £5
  • Mae prisiau cynnar ar gael o ddydd Mercher 12fed Mawrth tan ddydd Sadwrn 31ain Mai, 2025
  • Os ydych chi’n ddaliwr tocyn tymor 2024-25 fe fydd eich sedd yn ddiogel tan ddydd Llun 30ain Mehefin

BUDDIANAU TOCYN TYMOR

Yn ogystal â chael mynediad i 11 gêm gartref ym Mharc y Scarlets, fe fydd Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys nifer o fuddianau unigryw.

Mae buddianau Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys;

  • Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle’r Scarlets yn Mharc y Scarlets cyn yr arwerthiant cyhoeddus
  • Mynediad am ddim i holl gemau graddau oed y Scarlets yn ystod 2025-26
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw fydd yn cynnwys rheolwyr, chwaraewyr ac hyfforddwyr y clwb
  • Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2025-26
  • Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni o’r stadiwm ar ddiwrnod gêm
  • Gostyngiad oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets
  • Gostyngiad oddi ar becynnau lletygarwch ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gemau’r Scarlets (gemau cynghrair URC arferol a gemau grwp EPCR yn unig)
  • Gostyngiad oddi ar docynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, i’w cadarnhau

CYFLWYNO FFRIND

Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 202-26 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn £20 oddi ar bris eich Tocyn Tymor. Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd

  • fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
  • heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
  • dros 16 mlwydd oed

ADNEWYDDU / PRYNU

I ddarllen mwy am ein pecynnau Tocyn Tymor, prisiau a buddianau, cliciwch yma

I adnewyddu eich Tocyn Tymor, cliciwch yma

Os oes gennych gwestiynau pellach, neu’n methu cael mynediad i’ch cyfrif arleing presennol, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar  01554 29 29 39 neu ebostiwch tickets@scarlets.wales