Yn dilyn gêm gartref olaf y tymor arferol prynhawn dydd Sadwrn, yn erbyn Glasgow, mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau bod Parc y Scarlets wedi croesawu torfeydd mwyaf erioed trwy’r gatiau y tymor hwn gan groesi cyfartaledd o 10,000 y gêm.
Mae Parc y Scarlets wedi llwyfannu 14 gêm yn barod y tymor hwn; deg gêm Guinness PRO14, tri gêm grwp Cwpan Pencampwyr Ewrop ac un gêm ail gyfle Cwpan Pencampwyr Ewrop. Mae’r Scarlets yn dal yn y ras hefyd ar gyfer gêm gartref ail gyfle Guinness PRO14.
Fe welwyd y momentwm o dymor llwyddiannuss 2016-17 yn trosglwyddo i’r tymor newydd gyda’r Scarlets yn sicrhau buddugoliaeth ysgubol o 57-10 dros y newydd ddyfodiaid y Southern Kings yn rownd agoriadol Guinness PRO14 nôl ym mis Medi.
Mae tyrfeydd angerddol a lleisiol wedi cynorthwyo’r Scarlets i greu awyrgylch arbennig yn y Parc ac nid yw’r rhanbarth wedi colli gêm gartref Guinness PRO14 na Chwpan Pencampwyr Ewrop ers rownd agoriadol tymor 2016-17 ym mis Medi 2016.
Mae gwerthiant tocynnau tymor i fyny 147% ar werthiant i’r un dyddiad y llynedd gyda tair wythnos yn dal yn weddill ar gyfnod prisiau cynnar.
Mae tocynnau tymor ar gael nawr; cliciwch yma am wybodaeth pellach neu cliciwch yma i brynu tocyn tymor.
.
- Scarlets v Southern Kings, 2nd September 2017, Guinness PRO14; 9,108
- Scarlets v Edinburgh, 23rd September 2017, Guinness PRO14; 8,088
- Scarlets v Connacht, 29th September 2017, Guinness PRO14; 7,693
- Scarlets v Bath, 20th October 2017, Champions Cup; 11,479
- Scarlets v Cardiff Blues, 28th October 2017, Guinness PRO14; 9,003
- Scarlets v Benetton, 3rd November 2017, Guinness PRO14; 8,007
- Scarlets v Benetton, 9th December 2017, Champions Cup; 6,856
- Scarlets v Ospreys, 26th December 2017, Guinness PRO14; 14,509
- Scarlets v Dragons, 5th January 2018, Guinness PRO14; 9,347
- Scarlets v Toulon, 20th January 2018, Champions Cup; 14,476
- Scarlets v Ulster, 24th February 2018, Guinness PRO14; 6,941
- Scarlets v Leinster, 9th March 2018, Guinness PRO14; 9,108
- Scarlets v La Rochelle, 30th March 2018, Champions Cup; 15,373
- Scarlets v Glasgow, 7th April 2018, Guinness PRO14; 10,076