Tri newid i fenywod Cymru

Rob LloydNewyddion

Mae prif hyfforddwr Menywod Cymru Ioan Cunningham wedi cyhoeddi tri newid i’r ochr i wynebu Canada ar Ddydd Sul (5yh) yn dilyn y fuddugoliaeth 29-19 yn erbyn De Affrica Dydd Sadwrn diwethaf.

Keira Bevan sy’n cychwyn fel mewnwr wrth i Caryl Thomas a Lisa Neumann dychwelyd fel pen rhydd ac ar yr asgell dde ar ôl colli mas yn erbyn De Affrica trwy anaf. Mae Kat Evans hefyd wedi gwella o anaf ac yn cymryd ei lle ar y fainc.

Dywedodd Cunningham: “Ein prif ffocws ydy i barhau i wella. Rydym yn hapus iawn gyda’r perfformiad yn erbyn Japan a De Affrica. Er hyn, fe rhoddwn llawer o gyfleoedd i ffwrdd ar y parc, a ni allwn wneud hynny penwythnos yma. Pan rydym yn creu cyfleoedd i sgori, mae rhaid i ni gymryd nhw.

“Mae Canada wedi’i rhestri yn drydedd yn y byd am rheswm da. Mae ganddyn nhw atheltwyr Olympaidd yn eu hochr a chwaraewyr saith bob ochr. Bydd y tîm yn ein herio ac yn chwarae ‘all-court’ game. Bydd rhaid i ni gychwyn ar y trywydd iawn hyd at y chwiban olaf.

“Rydym yn hapus iawn gyda’r cynydd mor belled ac yn benderfynol i orffen yr ymgyrch ar nodyn uchel. Mae yna cystadleuaeth da o fewn y garfan ac rydym wedi gwobrwyo’r perfformiadau da ond mae’n bwysig i ni i fagu hyder.

“Mae’r gwaith da o ganlyniad i bawb yn y garfan, er i lawer o ohonynt ddim ymddangos yn y gyfres. Mae safon yr ymarferion wedi bod yn uchel ac mae hynny lawr i’r grwp gyfan. Rydym am barhau i adeiladu’r momentwm am Ddydd Sul a thu hwnt.”

Mae tocynnau am y gêm ar gael yma www.wru.wales/waleswomen 

Yn y llun mae Alisha Butchers o dîm Llanelli yn erbyn De Affrica penwythnos diwethaf