Bydd y Scarlets yn chwarae Cell C Sharks yn Stadiwm Hollywoodbets Kings Park am y tro cyntaf ar nos Wener (17:10 DU; BBC Cymru).
Tri newid gan y prif hyfforddwr Dwayne Peel ar gyfer y gêm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig – y gêm gyntaf rhwng y gogledd a’r de ar dir De Affrig yn y gystadleuaeth.
Gyda’r asgellwr Ryan Conbeer yn delio â anaf i’w ysgwydd o’r penwythnos, Corey Baldwin sydd yn cychwyn ar yr asgell am ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys Scarlets ers torri ei droed yn yr haf. Yn ei ymuno yn y tri ôl mae Tom Rogers a Steff Evans.
Y capten Scott Williams a Johnny Williams sydd wedi’u henwi yng nghanol cae, gyda’r ddau newid arall yn dod yn safleoedd yr haneri.
Yn dilyn anaf i groth y goes yn ystod yr ail hanner o gêm Glasgow, mae Rhys Patchell yn aros mas o’r gêm yma. Sam Costelow sydd wedi’i enwi yng nghrys rhif 10 gyda Dane Blacker fel mewnwr. Mae’r Llew Gareth Davies wedi dychwelyd i garfan Chwe Gwlad Cymru ar ôl ei berfformiad llwyddiannus yn erbyn y Warriors.
Does dim newidiadau i’r pac a’r un a chwaraeodd Dydd Sadwrn diwethaf.
Yn y rheng flaen mae Steff Thomas, Daf Hughes a Samson Lee. Sam Lousi a Jac Price sydd yn yr ail reng, wrth i Blade Thomson, Sione Kalamafoni a Dan Davis cwblhau’r rheng ôl.
Mae tri newid i’r fainc.
Shaun Evans sydd wedi’i enwi yn eilydd wrth i Marc Jones gael ei anafu, gyda’r mewnwr 19 oed Archie Hughes yn disgwyl i wneud ei ymddangosiad URC cyntaf oddi’r fainc. Mae Dan Jones hefyd wedi’i enwi yn y 23.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydym wedi cael cwpl o ddyddiau da o ymarferion yma. Mae’r bois wedi mwynhau’r aros mor belled ac yn edrych ymlaen at chwarae nos Wener.
“Mae ganddyn nhw tîm llawn chwaraewyr arbennig gyda sawl chwaraewr rhyngwladol wedi’u henwi.
“Os nad ydych yn troi i fyny gyda’r gorfforiaeth fe all hynny fynd yn eich erbyn yma. Mae gan y Sharks digon o gyflymder ar yr asgelloedd. Mae’r tri ôl yn gallu achosi digon o broblemau gyda’u cyflymder.
“Y pwynt dechrau i ni yw i gyrraedd ei lefel nhw yn gorfforol, wedyn mae rhaid chwilio am gyfleoedd i atal yr olwyr sy’n fygythiad enfawr. Mae rhaid i ni fod yn glinigol, yn ddisgylbliedig a cymryd y cyfleoedd wrth iddyn nhw ddod.
“Ni ydy’r tîm cyntaf i deithio o’r gogledd i chwarae yma, ac rwy’n siwr bydd hyn yn gêm mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at weld. Rwy’n siwr bydd y profiad i’r chwaraewyr yn cam enfar at symud ymlaen.”
Scarlets v Cell C Sharks (Dydd Gwener, Mawrth 11; 17:10 UK BBC Wales)
15 Tom Rogers; 14 Steff Evans, 13 Johnny Williams, 12 Scott Williams (capt), 11 Corey Baldwin; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Steff Thomas, 2 Daf Hughes, 3 Samson Lee, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Kemsley Mathias, 18 Harri O’Connor, 19 Aaron Shingler, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Archie Hughes, 22 Dan Jones, 23 Joe Roberts.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Rhys Patchell (calf), Marc Jones (calf), WillGriff John (back), Tomas Lezana (foot), Josh Macleod (hamstring), Ken Owens (back), Tom Price (ankle), Tom Phillips (knee), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion), Ioan Nicholas (hamstring).
Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol
Johnny McNicholl, Liam Williams, Jonathan Davies, Wyn Jones, Ryan Elias, Kieran Hardy, Gareth Davies.