Cefnwr y Scarlets Josh Hathaway sydd wedi’i enwi am ei ymddangosiad cyntaf i Gymru D20 ar gyfer rownd derfynol y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ym Mharc Eirias ar Ddydd Sul (CG 2yp, BBC1 Wales).
Yn cynddisgybl yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth, chwaraeodd ei rygbi iau i Glwb Rygbi Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae Josh yn astudio yng Ngholeg Hartpury yn Gloucestershire.
Mae’r chwaraewr 18 oed, sydd wedi i ddewis ar gyfer yr asgell dde, yn un o bum newid gan Byron Hayward, sydd yn cynnwys dychweliad canolwr y Scarlets Eddie James i’r XV.
Mae mewnwr y Scarlets Luke Davies – a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y URC yn gynharach yn y tymor – a’r maswr Josh Phillips bydd yn gwneud eu ymddangosiadau cynaf i Gymru D20 os yn dod oddi’r fainc.
Trechodd Cymru tîm yr Eidal haf diwethaf yn y Chwe Gwlad ond fe gollodd Cymru y tro diwethaf i’r ddau gwrdd yng Ngogledd Cymru, felly mae Hayward yn ymwybodol o’r her sydd o’u blaenau.
“Mae tîm D20 yr Eidal yn gryf,” dyweodd. “I drechu Lloegr, roedd y tîm yn wych yn amddiffynol y diwrnod hynny, felly mae rhaid sicrhau ein bod yn chwarae yn yr ardaloedd cywir ac yn fwy ymwybodol gyda’n rheolaeth. Yn enwedig ar ôl wythnos diwethaf fe allwn wedi cicio yn well, mae rhaid i ni wneud yn siwr ein bod yn cyrraedd y targedau.”
Er i Gymru ennill un gêm yn y bencampwriaeth mor belled, mae Hayward yn credu bod y garfan wedi gwella dros amser.
“Rhaid cael cydbwysedd o ran perfformiad a datblygiad,” dywedodd. “Gyda’r gêm yma ar Ddydd Sul byddwn wedi defnyddio 36 o chwaraewyr ac mae hynny’n bwysig hefyd. Rhoi cyfleoedd i chwaraewyr, gan wneud yn siwr eu bod yn haeddu’r cyfle ac nid er mwyn rhoi capiau i ffwrdd. Mae rhaid haeddu’r cap ac rwy’n credu mae’r cydbwysedd yna.”
Cymru D20 v Yr Eidal D20, Parc Eirias, Dydd Sul Mawrth 20, CG 2yp (BBC1 Wales)
15 Cameron Winnett (Cardiff Rugby); 14 Josh Hathaway (Scarlets), 13 Bryn Bradley (Harlequins), 12 Eddie James (Scarlets), 11 Oli Andrew (Dragons); 10 Joe Hawkins (Ospreys), 9 Morgan Lloyd (Dragons); 1 Cameron Jones (Ospreys) 2 Morgan Veness (Ealing Trailfinders), 3 Adam Williams (Dragons), 4 Benji Williams (Ospreys). 5 Ryan Woodman (Dragons), 6 Alex Mann (Cardiff Rugby – Capt), 7 Tom Cowan (Bath Rugby), 8 Ben Moa (Dragons).
Eilyddion: 16 Connor Chapman (Dragons). 17 Joe Cowell (Cardiff Met). 18 Nathan Evans (Cardiff Rugby), 19 Lewis Jones (Ospreys), 20 Ethan Fackrell (Cardiff Rugby), 21 Luke Davies (Scarlets), 22 Josh Phillips (Scarlets), 23 Iestyn Hopkins (Ospreys)