Bydd tri Scarlet yn cyrraedd carreg filltir wrth redeg ymlaen i gae Parc y Scarlets ar nos Wener yn y pumed rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Benetton. (19:35; S4C a Premier Sports).
Aaron Shinger bydd yn gwneud ei 200fed ymddangosiad mewn crys y Scarlets, Rob Evans ar ei 150fed ymddangosiad gyda Steff Hughes yn dathlu 100 o ymddangosiadau i’r clwb.
Mae’r triawd yn rhan o dîm gyda sawl newid o’r XV wnaeth cychwyn yn erbyn Leinster penwythnos diwethaf yn Nulyn.
Gyda 10 chwaraewr i ffwrdd gyda’r garfan ryngwladol, mae pump newid tu cefn i’r sgrym gyda’r cefnwr Ioan Nicholas a’r asgellwr Ryan Conbeer yn parhau yn eu safleoedd ers y gêm yn stadiwm RDS.
Mae Steff Evans yn ôl ar yr asgell chwith, gyda Scott Williams a Steff Hughes ar waith yng nghanol cae. Mae Williams wedi gwella o anaf i’w lygad a gafwyd yn ystod gêm Munster a fe fydd yn gapten ar y tîm.
Dan Jones a Dane Blacker, sydd yn gwneud ei dechreuad cyntaf yn yr ymgyrch, yn cyfuno fel haneri.
Mae’r cyfuniad o Rob Evans, Marc Jones a Samson Lee yn creu golwg newydd i’r reng flaen. Jac Prices sydd yn cymryd safle Lloyd Ashley fel clo, wrth i Shaun Evans ddod i mewn yn lle Tomas Lezana fel blaenasgellwr. Mae Lezana wedi’i anafu o’r gêm yn Nulyn.
Ar y fainc, mae’r mewnwr 18 oed Luke Davies ar darged i wneud ei ymddangosiad cyntaf, cynnyrch arall o Academi’r Scarlets
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “yn amlwg mae’r bois yn brifo ar ôl y ddau golled diwethaf, ond gyda’r chwaraewyr rhyngwladol wedi ein gadael mae’r bois sydd wedi dod i mewn wedi gweithio’n galed ac yn haeddu’r cyfle ar y penwythnos.
“Mae’r pedwar gêm diwethaf wedi dangos beth sydd gyda ni i gynnig. Mae rhaid dangos yr angerdd a parhau i gefnogi ein hunain. I mi, mae’n bwysig i ni wella beth rydym yn gwneud. Wythnos yma rydym wedi gweud i’r bois ein bod yn ffyddiog yn eu perfformiad. Mae rhaid i ni gredu ynddyn nhw am beth rydym am gyflawni.”
Scarlets v Benetton (Parc y Scarlets; 19:35 S4C/Premier Sports)
15 Ioan Nicholas; 14 Ryan Conbeer, 13 Steff Hughes, 12 Scott Williams (capt), 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Dane Blacker; 1 Rob Evans, 2 Marc Jones, 3 Samson Lee, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Aaron Shingler, 7 Shaun Evans, 8 Blade Thomson
Reps: 16 Daf Hughes, 17 Phil Price, 18 Javan Sebastian, 19 Lloyd Ashley, 20 Iestyn Rees, 21 Luke Davies, 22 Angus O’Brien, 23 Tom Rogers.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tomas Lezana (hamstring), Tom Phillips (knee), Josh Helps (Achilles), Sione Kalamafoni (concussion), Josh Macleod (Achilles), Rhys Patchell (calf), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Tom Prydie (foot), Dan Davis (pectoral muscle`).