Tuf Treads yn agor lleoliad newydd

Kieran LewisNewyddion

Aeth Scott Williams, canolwr y Scarlets a Chymru, i Cross Hands ar ddydd Iau 10fed Mai i agor lleoliad newydd Tuf Treads + Cross Tyres & Auto yn swyddogol.

Mae Tuf Treads + Cross Tyres & Auto yn noddwyr teyrngar o’r rhanbarth ac roedden nhw’n falch iawn croesawu ei chwaraewr nawdd Scott Williams i’r garej newydd.

Hoffwn estyn diolch i’r cyfarwyddwyr Mike a Dan Rees am y croeso twymgalon.

Nawdd chwaraewr yw un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd i fuddsoddi yn ein Rhanbarth. Mae eich cefnogaeth yn helpu i barhau â’n hymrwymiad i ddatblygu talent Cymreig, o dalent ifanc i chwaraewyr rhyngwladol.

Rhai o’r prif nodweddion yw:

  • Cysylltu’ch busnes chi â chwaraewyr y Scarlets
  • Eich chwaraewr noddedig i fynychu un o ddigwyddiad cwmni
  • Cydnabyddiaeth yn y rhaglen diwrnod gêm

I ddysgu mwy am y pecynnau gwych hyn, ffoniwch y Tîm Masnachol ar 01554 783944 neu e-bostiwch [email protected]