Mae Jonathan Davies, canolwr Llewod Cymru a Phrydain ac Iwerddon wedi ennill y bleidlais dros y crys rhif 13 yn y #UltimateXV Rhanbarthol sy’n cael ei ddewis drwy bleidlais gan gefnogwyr ar-lein.
Fe wnaeth Foxy hawlio 55%, gan osgoi her Jamie Robinson (Gleision Caerdydd), Andrew Bishop (Gweilch) a chyn-Scarlet arall Matthew J Watkins, a oedd yn cynrychioli’r Dreigiau yn y bleidlais.
Mae Davies wedi gwneud 158 ymddangosiad mewn crys Scarlets dros 11 tymor yn rhyngosod cyfnod byr gyda Clermont Auvergne yn Ffrainc.
Yn cael ei ystyried yn un o’r canolwyr gorau yn rygbi’r byd roedd yn chwaraewr y gyfres i’r Llewod yn Awstralia yn 2013 a Seland Newydd bedair blynedd yn ddiweddarach. Yn aelod o garfan Cwpan y Byd 2019 Cymru a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn Japan, ar hyn o bryd mae’n gwella o anaf i’w ben-glin a ddioddefodd yn ystod y gystadleuaeth.
Bob dydd mae cefnogwyr y Scarlets, Gleision, Dreigiau a’r Gweilch wedi bod yn pleidleisio i pennu y gorau o’r chwaraewyr. Hyd yn hyn rydych wedi pleidleisio pedwar Scarlets i mewn i’r tim gyda Ken Owens, Tadhg Beirne, Stephen Jones a bellach Davies yn gyd yn y XV.
Gallwch barhau i gymryd rhan gyda pleidlais yr asgellwr Dafydd James a chefnwr Liam Williams yn mynd ar gyfer y ddwy safle olaf yn yr ochr.
Mae’r #UltimateXV wedi bod yn rhedeg am y chwech olaf mewn cydweithrediad â chwmni technoleg Caerdydd Doopooll ac wedi cadw cefnogwyr i ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod Covid-19.
UltimateXV (hyd yn hyn)
1 Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), 2 Ken Owens (Scarlets), 3 Adam Jones (Gweilch), 4 Tadhg Beirne (Scarlets), 5 Alun Wyn Jones (Gweilch), 6 Josh Navidi (Gleision Caerdydd), 7 Justin Tipuric (Gweilch ), 8 Taulupe Faletau (Dreigiau); 9 Mike Phillips (Gweilch), 10 Stephen Jones (Scarlets), 11 Shane Williams (Gweilch), 12 Jamie Roberts (Gleision Caerdydd), 13 Jonathan Davies (Scarlets).