Mae Pencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) wedi lansio URC TV yn swyddogol, gwasanaeth gweddarlledu newydd sy’n galluogi cefnogwyr o dros y byd i wylio’r gêm yn fyw ac ar alw, i ddliyn eu tîm wrth chwarae adref neu oddi cartref.
URC TV fydd canolbwynt i gefnogwyr i wylio pob 151 o gemau’r URC ar unrhyw adeg, gyda pob munud o bob gêm ar gael yn fyw ac ar alw.
Mae cyflwyniad y pedwar tîm De Affrig i’r URC wedi creu cystdaleuaeth heriol wrth i’r ddau hemisffer gwrdd gyda’r gorau o Iwerddon, yr Eidal, yr Alban a Chymru wynebu’r gorau o’r De Affrig.
Bydd URC TV yn cynnig amryw o becynnau tanysgrifio gan gynnwys Tocyn Tymor (pob gêm), Tocyn Gwyddelig (pob gêm sy’n cynnwys clybiau Gwyddelig), Tocyn Penwythnos (pob gêm o fewn rownd) a tocynnau i gemau unigol. Bydd rhain ar gael i gefnogwyr sy’n gwylio yn Iwerddon, Ewrop (heb law am DU), UDA a nifer o diriogaethau eraill.
Gwasanaeth am ddim sy’n cynnig amryw o uchafbwyntiau, gemau archif a fideos byr, a fydd ar gael ym mhob gwlad yn cynnwys y DU a De Affrica (bydd cefnogwyr o’r gweldydd yma yn gallu gwylio’r gemau yn fyw ar Premier Sports a Super Sport).
Mae URC TV yn addo rhoi mynediad i gefnogwyr rygbi i gynnwys o’r safon gorau, trwy gydol y flwyddyn ac i ddilyn holl weithredoedd eu hoff dîm. Bydd y gwasanaeth gweddarlledu ar gael yn hawdd ar draws sawl dyfais gydag apiau symudol yn lansio yn fuan ar ôl i’r twrnamaint ddechrau. Bydd gemau yn cael eu darlledu mewn HD gyda sylwebaeth Saesneg o ansawdd uchel.
Ewch i www.urc.tv i danysgrifio.