Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets yn derbyn medal arian ym Mhencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Iau Lord’s Taverners

Natalie JonesNewyddion Cymuned

Ddydd Sadwrn Mehefin 29ain, teithiodd Tim Rygbi Cadair Olwyn Iau dan 14 y Scarlets i Stoke Mandeville i gystadlu ym Mhencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Iau Lord’s Taverners lle enillon fedal arian.

Daeth y Scarlets yn fuddugol yn erbyn y Gweilch, 7-6, a Maplefield Saints, 10-7, yn y camau grŵp ond curwyd y Cochion yn y rownd derfynol wrth i Northampton Saints barhau â’u buddugoliaethau.

Sefydlwyd Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ychydig dros flwyddyn yn ôl a chafodd hyfforddwyr y Scarlets, y fam a’r ferch Jane a Nicola Hayton, eu synnu gyda safon y tim wrth chwarae a pherfformio dan amgylchiadau twrnamaint. 

Dywedodd Jane: “Maent i gyd wedi charae’n dda iawn ar ôl bod mor nerfus yn y bore, roedd y daith o Hwlffordd y noson gynt yn brofiad newydd i rai, yn enwedig ein chwaraewyr oed 8-12 yn chwarae mewn cystadleuaeth dan 14.”

Wedi dathlu eu penblwydd cyntaf fis diwethaf, mae gan y clwb tua 20 o aelodau ac maent bob amser yn chwilio am chwaraewyr newydd i’r timau iau a hŷn. 

Mae Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets yn cwrdd yng Ngholeg Sir Benfro bob dydd Iau o 6-8yh. Yn ystod mis Awst, bydd y clwb yn cynnal rhai sesiynau yn ystod y dydd ar Awst y 1af, 8fed, 22ain a 29ain – Tim Iau 12.30-2yh (oed 8 – 14), Tim Hŷn 2-3yh (oed 14 – oedolion).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jane ar 07967 140474 neu [email protected]