Bydd Werner Kruger yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor, gan gwblhau gyrfa 16 mlynedd o hyd.
Mae’r prop rhyngwladol o Dde Affrica wedi ymddangos dros 100 o weithiau i dalaith Blue Bulls, ochr Bulls Super Rugby ac y Scarlets, ac wedi bod yn aelod allweddol o’r garfan ers iddo gyrraedd Llanelli pum mlynedd yn ôl.
Mae ganddo bedwar o gapiau wrth gynrychioli’r Springbok, ac wedi ymddangos 122 o weithiau i’r Scarlets ac roedd yn aelod o’r garfan wnaeth ennill teitl y Guinness PRO12 yn 2017.
Dathlodd ei ben-blwydd yn 36 yn gynharach yn y flwyddyn ac fe esboniodd mai dyma’r amser iawn iddo ymddeol.
“Rydych wedi clywed y dywediad “you know when you know” ac mae’n anodd deall y dywediad hynny nes i’r amser iawn i ddod” dywedodd Kruger.
“Rwy’n teimlo’n ffodus i fod wedi chwarae am y 16 mlynedd diwethaf a mwy.
“Wrth dyfu fyny, roeddwn yn angerddol am rygbi gan freuddwydio am gynrychioli’r Springboks ac mae wedi bod yn anrhydedd enfawr i allu chwarae am gymaint o amser.
“Hoffwn roi diolch i’m Harglwydd, Iesu Grist am fy helpu trwy fy ngyrfa a chadw fy nghorff, meddwl ac ysbryd yn ddiogel. Wrth chwarae, mae’n rhwydd anghofio beth rydym yn cyflawni ar y pryd wrth fynd o gêm i gêm; wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa rwy’n teimlo balchder mawr a’n ffodus am faint dwi wedi gallu chwarae.”
“Diolch enfawr i fy nheulu am eu cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus”
Ymddangosodd i’r Scarlets yn gyntaf yn 2016 ar ôl arwyddo o’r Bulls.
“Roedd hi’n ddechreuad anhygoel i mi gyda’r Scarlets, gan ennill y teitl yn Nulyn yn erbyn Munster. Mae’r tymor yna yn sefyll allan i mi. Roedd rownd yr wyth olaf yn erbyn La Rochelle a gweld Parc y Scarlets wedi’i llenwi yn anhygoel.
“Dwi wedi mwynhau bob munud o fy amser yma. Hoffwn ddiolch teulu’r Scarlets – y cefnogwyr a ddaeth i’m gweld bob wythnos; mae pob un ohonynt wedi hwyluso ein hamser yma fel teulu. I bob un o fy nghyd-chwaraewyr, hyfforddwyr, gwrthwynebwyr, rheolwyr, timau meddygol, cefnogwyr, a noddwyr o bob adeg o fy ngyrfa – diolch. Rydych i gyd wedi chwarae rhan allweddol yn fy ngyrfa a’n datblygiad a fyddai wastad yn gwerthfawrogi hynny.
“Rwy’n lwcus iawn fy mod i wedi bod yn rhan o sawl garfan anhygoel yn ystof fy ngyrfa. Ennill dau rownd derfynol gefn wrth gefn gyda’r Bulls ac wrth gwrs cynrychioli fy ngwlad yn anrhydeddau mawr ac yn brofiad bythgofiadwy.”
Bydd Werner yn dychwelyd i Dde Affrica ar ddiwedd y tymor yma, a fydd yn cymryd ei fedal PRO12 yn ôl i’w mamwlad.
Felly beth nesaf?
“Rwy’n gynllunydd ariannol felly hoffwn ail-ddechrau hynny a gobeithio bydd drysau yn agor o fewn y byd rygbi. Hoffwn gadw rhyw fath o gysylltiad i rygbi. Ac wrth gwrs fydd treulio bach o amser ar y cwrs golff yn hyfryd!”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “I ymddangos mwy nag 100 o weithiau yn y Currie Cup, Super Rugby a gyda’r Scarlets, mae’n gyrrhaeddiad anhygoel ac yn dangos gwir proffesiynoldeb Werner ac ei ymrwymiad i rygbi. Mae’n esiampl gwych i unrhyw chwaraewr ifanc.
“Hoffir pawb yng nghlwb y Scarlets longyfarch Werner ar ei yrfa lwyddiannus ac rwy’n siŵr fe welwn ar y cae am sawl gem arall cyn iddo ddychwelyd i Dde Affrica ar ddiwedd y tymor.”