Mae prop y Scarlets Wyn Jones dan sylw yng nghyfres arbennig y Llewod sy’n sôn am hanes ei yrfa rygbi.
Fe ddaeth y prop pen rhyd poblogaidd trwy’r rhengoedd yn ei glwb cartref Llanymddyfri cyn iddo yn chwaraewr broffesiynol llawn amser gyda’r Scarlets.
Gallwch wylio’r fideo iaith Gymraeg y Llewod, sy’n dangos Wyn yn sôn am y flynyddoedd cynnar o chwarae yn y Drovers, isod.
Dywedodd cynrychiolydd o’r Llewod: “Mae taith y Llewod yn dod â chefnogwyr o ar draws y byd at eu gilydd. Yn ystod yr amser rhyfedd iawn yma rydym yn gweithio’n galed i gysylltu’r cefnogwyr gyda’r garfan yn Ne Affrica ac rhan mawr o’r ymgyrch yma yw i ddangos siwrne rygbi’r chwaraewyr o’u clybiau cartref i’r gêm rhyngwladol.
“Mae’r clybiau yma at galon y gêm ac yn haeddu’r clod am beth maen nhw’n eu wneud, ac rydym yn gobeithio bydd y fideos yma yn hybu’r clybiau a rygbi clwb gan ddod â chefnogwyr yn agosach at y Llewod.
“Mae siwrne Wyn o rygbi dan 7 trwyddo at y tîm cyntaf yn Llanymddyfri yn un sbesial iawn ac mae ei angerdd am y clwb yn amlwg ym mhob sgwrs”