Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg cyn gêm Guinness PRO14 nos Wener yn erbyn Gleision Caerdydd. Dyma’r uchafbwyntiau o’r gynhadledd wasg.
Faint wyt ti’n edrych ymlaen at wynebu’r Gleision eto?
GD “Mae’n gyfle i ni fanteisio. Rydym yn paratoi ac wedi edrych yn ôl ar ein gêm yng Nghaerdydd. Yn amlwg mae rhaid i ni gywiro disgyblaeth o ran y cerdyn coch a derbyn cyfrifoldeb am hynny. Rydym yn ystyried ein bod ar un adeg ar y blaen 20-18 ond wedi methu cydio yn y fuddugoliaeth at ddiwedd y gêm, ac mae ganddyn nhw’r gallu i wneud hynny hyd yn oed gyda 14 dyn. Rydym wedi dysgu llawer o hynny, ac yn edrych ymlaen at yr ail gyfle i gywiro ein camgymeriadau. Mae’n benderfyniad rhagweithiol iawn gan y PRO14, i chwarae’r gêm yma gan chwarae’r chwaraewyr gorau ar y cae. Gobeithio bydd hyn yn denu llawer o ddiddordeb.”
Wyt ti’n disgwyl effaith sydyn gan Dai Young?
GD: “Mae’n grêt i gael Dai yn ôl yn y gêm, dw i wedi ei nabod ers amser maeth ac yn gwybod faint mae Caerdydd yn ei olygu iddo. Rydym wedi cael sgwrs ar sawl adeg ac mae’n mwynhau bod yn ôl mewn ffocws. Bydd y ddau dîm yn canolbwyntio ar beth allwn ddod i’r gystadleuaeth.”
Beth yw’r diweddaraf o ran anafiadau?
GD: “Fe ddechreuwn gyda Rhys Patchell a Aaron Shingler. Mae’r ddau yn gwella. Mae Rhys yn ein grŵp ‘dychwelyd i chwarae’, mae gennym gynllun dros y chwe wythnos nesaf i ailgychwyn ei ymarferion a’i ailgyflwyno i gemau. Mae Rhys o fewn yr amgylchedd iawn ac yn cyfrannu i hynny.”
“Mae Shings yn gwneud cynnydd da. Rydym wedi gweithio trwy’r cyfnodau mwyaf anodd ac rydym nawr yn edrych ar ei atgyflyru. Mae’n rhedeg rhyw bedair neu pum gwaith yr wythnos. Fel Patch, mae Aaron yn ddyn da a gallwch weld y sbarc yn aildanio. Bydd ei ddychweliad yn raddol, mae angen ffeindio sefydlogrwydd dros y pedair wythnos nesaf, bach fel ‘pre-season’ iddo. Mae gennym ni gyfrifoldeb i’w edrych ar ei ôl.”
Mae Ken Owens yn ôl yn ymarfer ac mae’r sbarc yn ôl hefyd. Mae’n grêt i’w gael yn ôl yn ymarfer, a fydd yn cystadlu am le wythnos hon.
“Mae Jake Ball hefyd wedi dychwelyd i ymarferion ac mae rhaid i ni wneud y penderfyniad iawn ynglŷn â Jake. Rhaid i ni sicrhau ei bod yn ffit cyn i ni ei daflu i mewn i’r chwarae. Mae Johnny McNicholl hefyd nol yn ymarfer ar ôl gorfod hunan ynysu yn dilyn cyswllt agos.
“Mae Rob Evans, Samson Lee a James Davies i gyd yn gweithio eu ffordd yn ôl ar ôl delio â cyfergyd. Rhaid i ni fod yn gyfrifol iawn wrth ddelio â’r sefyllfa gan gofio ein dyletswydd gofal ar ein chwaraewyr. Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb yma o ddifri. Mae’r gofal mae’r chwaraewyr yn derbyn yn well nag erioed. Does dim pwysau ar y chwaraewyr i ddychwelyd ar ddyddiad penodol.”
Gall y cefnogwyr disgwyl i’r safleoedd sydd yn cael eu gadael yn wag gan Jake Ball a Tevita Ratuva cael eu llenwi?
GD: “Rydym yn disgwyl i mewn i hynny ar hyn o bryd. Mae’r chwaraewyr yna yn gadael bwlch mawr i’w lenwi. Mae gennym broses da iawn lle mae chwaraewyr fel Morgan Jones, Jac Price, Josh Helps a Danny Drake yn dod trwy, ond rhaid cael y cydbwysedd yn gywir. Rydym yn colli llawer o brofiad ymysg Jake a Tevita. Mae hynny yn ardal rydym yn edrych i gryfhau.”