Gyda safleoedd Cwpan Pencampwyr Heineken dal ar gael, bydd y Scarlets yn chwarae Connacht yn ei gêm olaf yn y PRO14 y tymor hwn.
Roedd buddugoliaeth munud olaf Caeredin yn erbyn Connacht yn Galway a buddugoliaeth pwynt bonws Caerdydd yn Treviso yn golygu bod ein gêm nesaf ar nos Lun ym Mharc y Scarlets yn holl bwysig.
Ar hyn o bryd, mae’r Scarlets yn eistedd yn y trydydd safle gan arwain y Gleision o dri phwynt gyda’r ddau dîm wedi chwarae 15 gêm. Rydym 10 pwynt o flaen Caeredin, sydd â thair gêm i chwarae – gan gynnwys gêm yn erbyn Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau, hefyd ar nos Lun nesaf.
Fe ddychwelodd y Scarlets yn waglaw o Limerick ar nos Wener gan orffen gyda sgôr o 28-10 yn erbyn Munster sydd ar frig tabl Cynhadledd B.
Gan edrych yn ôl ar y gêm, dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney: “Yr her oedd fe wastraffon gyfleoedd gyda safleoedd a thiriogaeth – roedd rheolaeth y gêm yn wahanol rhwng y ddau ochr, nad oeddwn wedi rheoli’r gêm fel y hoffwn wneud. Nad oeddwn wedi rhoi digon o gyfleoedd i’n hun a dim ond ar ddiwedd y gêm roedd digon o waith wedi cael eu gwneud i groesi.
“Credais fod Munster wedi rheoli’r gêm yn dda ac roedd eu hail gais yn ymdrech unigol da iawn; fe lwyddom i frwydro’n galed yn ystod yr ail hanner, ond erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr.”
Pan gafodd ei gwestiynu am ddisgyblaeth y Scarlets a welodd Aaron Shingler a Tevita Ratuva yn cael eu danfon i’r gell gosb ar naill hanner o’r gêm, ychwanegodd: “Dw i’n credu bod heriau yn yr ardaloedd hynny. Yn ystod yr hanner cyntaf fe frwydrom i gael y bêl yn gyflym allan o’r ryc; o safbwynt hynny, mae angen ymarfer sut i symud allan o’r ffordd, nad oedd unrhyw wobr o’r sgrymio i ni chwaith. Wrth edrych ar ddisgyblaeth mae angen edrych ar y gêm yn gyfan. Yn amlwg, nad ydym eisiau chwaraewyr yn cael eu danfon oddi’r cae, mae hynny’n gostus; llynedd fe chwaraeom Munster gyda 13 dyn ac fe orffennodd y gêm yr un ffordd.”
Gan edrych ymlaen at yr wythnos i ddod, dywedodd Delaney,” “Mae rhaid gweithredu beth rydym yn dysgu yn yr ymarferion ac ein bod yn ddisgybledig. Y brif wers o gêm Munster yw sut i chwarae rygbi yn y tywydd gwlyb. Roedd gêm Munster yn yr amodau hynny yn dda iawn, ac mae angen i ni weithio ar hynny.”