Y pedwar Scarlet i chwarae eu rhan yn erbyn y Sharks

Rob LloydNewyddion

Mae’r pedwar Scarlet wedi’u henwi yn nhîm y Llewod i wynebu Cell C Sharks ar ddydd Sadwrn yn Loftus Versfeld yn Pretoria (cic gyntaf am 5yh BST).

Liam Williams a Gareth Davies nôl yn y XV, wrth i Ken Owens ac Wyn Jones cael eu henwi ymysg yr eilyddion.

Bydd Jamie George (Saracens, Lloegr) yn gapten ar yr ochr sydd yn dangos 13 newid ers chwarae’r un gwrthwynebwyr yn gynharach yn yr wythnos, gydag ond Elliot Daly (Saracens, Lloegr) a Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Yr Alban) yn cadw eu lle.

Mae’r gêm yn erbyn y Sharks yn llenwi’r bwlch o ohiriad gêm y Bulls a dyma’r trydydd gêm o wyth yn y gyfres sydd yn cwblhau gyda tri gêm Prawf yn erbyn pencampwyr y byd, y Springboks.

Dyma’r ail dro i’r Llewod chwarae’r Sharks yn gyfres Castle Lager Lions, ar ôl trechu’r tîm yn barod ar ddydd Mercher ym Mharc Emirates Airlines o 54-7.

CELL C SHARKS v Y LLEWOD

15. Liam Williams (Scarlets, Wales);  14. Anthony Watson (Bath Rugby, England), 13. Elliot Daly (Saracens, England),  12. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland);  10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales), 9. Gareth Davies (Scarlets, Wales);  1. Rory Sutherland (Worcester Warriors, Scotland), 2. Jamie George – captain (Saracens, England),  3. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland), 4. Maro Itoje (Saracens, England),  5. Jonny Hill (Exeter Chiefs, England), 6. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 7. Hamish Watson (Edinburgh Rugby, Scotland), 8. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland).

Replacements: 16. Ken Owens (Scarlets, Wales),  17. Wyn Jones (Scarlets, Wales),  18. Kyle Sinckler (Bristol Bears, England),  19. Courtney Lawes (Northampton Saints, England), 20. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England), 21. Tom Curry (Sale Sharks, England), 22. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland),  23. Finn Russell (Racing 92, Scotland)