Y prop Archer Holz yn arwyddo cytundeb gyda’r Scarlets

GwenanNewyddion

Scarlets yn cyhoeddi arwyddiad y prop o Awstralia Archer Holz ar gyfer y tymor i ddod.

Mae’r prop pen tynn 24 oed wedi codi ei broffil yn gyflym yn rygbi Awstralia; gyda’i berfformiadau yn y gystadleueth Shute Shield yn arwain at gytundeb broffesiynol gyda’r ochr Super Rugby y Brumbies.

Ymunodd â’r Waratahs lle enillodd ei gap gyntaf i Awstralia A yng nghystadleuaeth Pacific Nations Cup yn 2022 ac ar ôl cyfnod byr gyda’r tîm TOP14 La Rochelle yn Ffrainc, dychwelodd i’r Waratahs lle wnaeth anaf i’w ysgwydd golygu iddo eistedd allan o weddill yr ymgyrch.

Bydd Archer yn cyrraedd Llanelli ym mis Tachwedd a fydd y chwaraewr diweddaraf i ymuno â charfan y Scarlets am yr ymgyrch 2024-25 yn dilyn cyhoeddiadau Marnus van der Merwe (Toyota Cheetahs), Alec Hepburn (Exeter Cheifs), Max Douglas (Yokohama Canon Eagles), Ellis Mee (Nottingham), Blair Murray (Canterbury) a Henry Thomas (Castres Olympique).

Dywedodd Archer Holz: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno’r Scarlets. Edrychaf ymlaen at ddatblygu fy ngêm o fewn system gwahanol ac ar ôl cael blâs ar rygbi yn Ewrop gyda La Rochelle, dwi’n credu bod fy steil o rygbi yn addas ar gyfer rygbi hemsiffer y gogledd.

“Mae’r flwyddyn diwethaf wedi teimlo’n rhwystredig iawn ond rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod gyda’r Scarlets a chwrdd fy nghyd-chwaraewyr.

“Gallai weld bod tîm llawn talent yn cael ei ddatblygu ac yn adeiladu tuag at lwyddiant yn y dyfodol.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Archer yn brop ifanc rydym wedi cadw llygad ar am dipyn o amser.

“Bydd Archer yn ychwanegu at y grwp o chwaraewyr rheng flaena sydd gyda ni yma yn barod ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i’r clwb ym mis Tachwedd.”

Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Benetton yn Treviso ar Ddydd Sadwrn, Medi 21 cyn i ni groesawu Caerdydd i Barc y Scarlets am ein gêm gartref gyntaf o’r ymgyrch.

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y gêm yna ar-lein ar tickets.scarlets.wales neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01554 292939.

Archer Holz

Oed: 24

Taldra: 188cm

Pwysau: 122kg

Anrhydeddau: Australia A

Clybiau blaenorol: Brumbies, Waratahs, La Rochelle