Y Scarlets yn buddsoddi mewn cae newydd o safon ryngwladol ar gyfer dechrau tymor newydd

Kieran LewisNewyddion

Bydd Parc y Scarlets yn cael arwyneb chwarae newydd sbon mewn pryd ar gyfer dechrau tymor 2019-20.

Mae’r Scarlets yn buddsoddi £550,000 mewn prosiect a fydd yn gweld yr hen gae yn cael ei ddisodli’n llwyr gan system hybrid uwch-dechnoleg newydd.

Hwn fydd y tro cyntaf i’r cae gael ei ddisodli ers i’r stadiwm agor yn 2008.

Bydd yr arwyneb yn debyg i’r arwynebedd ym Mharc Sant Iago Newcastle, Stadiwm Madejski Reading a Pharc Celtaidd Glasgow, y lleoliad ar gyfer rownd derfynol Guinness PRO14 eleni.

Mae’r system SISGrass newydd yn cyfuno ffibrau artiffisial â’r glaswellt traddodiadol sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer caeau chwaraeon.

Gyda gwaith yn dechrau’r wythnos hon, caiff y gwraidd-elastig presennol ffibr ei dynnu a’i ddisodli gan 2,500 dunnell o gymysgedd tywod a phridd, y caiff y system hybrid ei bwytho i mewn yn ddiweddarach.

Bydd y gosodiad, sy’n cael ei gynnal gan Diroedd Chwaraeon De Cymru, yn cymryd chwe wythnos i’w gwblhau.

“Mae’n anochel bod gofynion rygbi proffesiynol yn cael effaith fawr ar y tyweirch, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf pan fo’r wyneb yn fwy tueddol o gael ei ddifrodi,” meddai Luke Jenkins, Prif Tirmon y Scarlets.

“Trwy osod y system hybrid SIS hon, bydd yn atgyfnerthu’r cae er mwyn sicrhau wyneb chwarae o’r radd flaenaf drwy gydol y flwyddyn.

“Mae systemau tebyg wedi cael eu gosod mewn stadiymau elitaidd ledled y byd.

“Ym Mharc y Scarlets rydym yn ymdrechu’n gyson i gynhyrchu’r wyneb gorau posibl i’r tîm a bydd y buddsoddiad hwn o gymorth mawr i ni i gyflawni’r nod hwnnw.”

Dywedodd Phillip Morgan, Rheolwr Gweithrediadau’r Scarlets: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i sicrhau bod gennym arwyneb o’r radd flaenaf yma ym Mharc y Scarlets.

“Mae’r un system hybrid wedi’i gosod mewn nifer o’r prif leoliadau chwaraeon yn y wlad.

“Bydd nid yn unig yn helpu’r ochr i chwarae’r rygbi rydym yn anelu ato, ond bydd hefyd yn ein helpu i gynhyrchu ein refeniw nad yw’n rygbi o ran denu cyngherddau a digwyddiadau ar lawr gwlad.”