Mae chwaraewyr newydd y Scarlets am y tymor yma Scott Williams, WillGriff John, Tom Price a Tomas Lezana wedi’u croesawu i Barc y Scarlets wrth i’r garfan dychwelyd i ymarferion.
I Williams a Price, bydd y stadiwm yn amgylchedd cyfarwydd wrth i nhw dychwelyd i’r clwb am yr ail dro, wrth i John arwyddo o Sale Sharks a Lezana cyrraedd o’r Western Force.
O dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd Dwayne Peel a’i dîm hyfforddi, sy’n cynnwys gwynebau newydd Nigel Ashley-Jones a Hugh Hogan, roedd yr ymarferion wedi herio’r bois ar y diwrnod cyntaf.
Bydd y chwaraewyr Scarlet sydd wedi bod i ffwrd gyda’r carfannau rhyngwladol dros yr haf yn dychwelyd mis nesaf, wrth i’r pedwar Llew dychwelyd i Lanelli ym mis Medi.
Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Pencampwriaeth Rygbi Unedig ar benwythnos olaf mis Medi.