Y chwaraewr ail-reng Morgan Jones ydy’r chwaraewr ifanc diweddaraf i ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets.
Fe fwynhawyd y chwaraewr 21 oed tymor llwyddiannus eleni ym Mharc y Scarlets, gan ymddangos mewn 11 o gemau, gan gynnwys y fuddugoliaeth Cwpan Heineken yn erbyn Caerfaddon pan lwyddodd i daclo i achub cais a sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r clo 6 troedfedd 7 modfedd a ganed yn Nuneaton yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei dad-cu, a gafodd ei eni a’i fagu yn Llanelli. Ymunodd ag Academi’r Scarlets yn 2017; wedi’i gapio i Gymru d18 ac roedd yn aelod o’r garfan d20 wnaeth maeddu Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd d20 allan yn yr Ariannin yn 2019.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae Morgan wedi chwarae rhyw 640 o funudau i ni’r flwyddyn yma, mae wedi profi ei barodrwydd i gamu i fyny i’r PRO14 ac Ewrop ac mae Morgan yn un o’r sawl chwaraewr ifanc sydd gyda dyfodol disglair o fewn rygbi.
“Mae’n chwaraewr sydd wedi gweithio’n galed ar ei gêm, ac wedi dysgu llawer wrth y chwaraewyr hŷn yn ei grŵp a fydd ond yn gwella gydag amser. Rydym wedi cyffroi ar beth sydd i ddod ganddo.
Dywedodd Morgan: “Cefnogais y Scarlets fel plentyn felly i chwarae iddyn nhw a rhedeg allan gyda chwaraewyr dw i wedi gwylio wrth dyfu i fyny yn swreal iawn.
“Mae wedi bod yn bleser i gael cymaint o amser ar y cae y tymor yma ac mae chwarae ymhlith bois sydd hefyd wedi dod trwy system yr Academi wedi bod yn grêt.
“Ar hyn o bryd, dwi ddim yn edrych rhy bell ymlaen, dwi am ffocysu ar wella fy ngêm, a chadw dysgu wrth y chwaraewyr hŷn a gwella bob tro.”