Mae’r Scarlets yn falch iawn i gadarnhau bod Vaea Fifita wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Mae’r blaenwr 32 oed wedi ennill cefnogaeth y dorf yn Llanelli ers ymuno o’r Wasps yn 2022.
Yn gyn-chwaraewr i’r Crysau Duon, mae ei allu fel athletwr wedi arwain at sawl foment unigol – ei gais buddugol yn erbyn Brive yng Nghwpan Her Ewrop i enwi un.
Fe orffennodd ymgyrch y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar frig y tabl am ddwyn y bel o’r tafliad hefyd.
Ar ôl ymddangos 11 o weithiau i Seland Newydd, fe newidodd Fifita i’w wlad enedigol, Tonga, cyn dechreuad Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn Ffrainc a chwaraeodd i’r ‘Ikale Tahi’ yn y twrnamaint.
Mae Vaea wedi ymddangos 35 o weithiau i’r Scarlets, gan groesi am saith o geisiau – gan gynnwys ymdrechion unigol arbennig yn erbyn Ulster, Brive, Caerdydd, Caeredin a Munster.
Cyn symud i hemisffer y Gogledd, roedd Fifita yn aelod o dîm buddugol Super Rugby y Hurricanes, a chwaraeodd wrth ochr ei gydchwaraewr presennol Sam Lousi a’r cyn Scarlet Blade Thomson.
Dywedodd Vaea Fifita: “Mae cefnogwyr a chymuned y Scarlets wedi fy nghefnogi i, ac mae fy nheulu yn teimlo’n gartrefol iawn. Mae hyn yn golygu llawer i mi ac yn rhywbeth rwy’n gwerthfawrogi’n fawr.
“Wrth ymestyn fy nghytundeb dwi’n dangos fy ymrwymiad a hyder yn y clwb, y staff a’r cyfeiriad rydym yn gweithio tuag at yma. Fel aelod profiadol o’r garfan, dwi am helpu’r tîm ifanc a chyffrous yma i fod yn llwyddiannus.
“Dwi am ffocysu ar ddechrau’r tymor yn dda a helpu’r tîm i gychwyn ar nodyn uchel. Mae dechrau bob tymor yn amser cyffrous ac i ni’n edrych ymlaen at fod o flaen ein cefnogwyr eto.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’n wych bod Vaea wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets. Mae’n athletwr penigamp sydd wedi bod yn ffefryn ymysg y cefnogwyr ers iddo gyrraedd yma.
“Mae’n chwaraewr arbennig sydd yn gallu creu digwyddiadau arbennig o fewn gêm – gallwch weld hynny o’r ceisiau mae wedi sgori i ni. Fe yw un o’r blaenwyr gorau yn y bencampwriaeth, yn enwedig ar bêl y gwrthwynebwyr.
“Dwi wedi sôn amdano gadw ein chwaraewyr gorau ac mae cadw Vaea, ar ôl cyhoeddi nifer arall o chwaraewyr pwysig mewn safleoedd allweddol sydd yn aros gyda ni, yn pwysleisio’r angerdd i wthio’r clwb ymlaen dros y tymhorau i ddod.”
Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Benetton yn Treviso ar Ddydd Sadwrn, Medi 21.
I ymuno â Vaea ar daith Teulu’r Scarlets, prynwch eich Aelodaeth Tymor trwy wefan www.scarlets.wales neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01554 292939.