Yn cyflwyno ‘Balchder y Pac’

Kieran LewisNewyddion

Mae ein cefnogwyr bob amser wedi bod yn guriad calon y Scarlets – boed yn dalwr tocyn tymor hir, yn aelod iau neu’n llais ar y teras.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom wahodd dalwyr tocyn tymor i ddod yn ‘Wyneb y Scarlets’ i ymddangos ar ein deunydd hyrwyddo cyn ymgyrch 2019/20, a wnaeth llawer iawn ohonoch chi gofrestru.

Yn y pen draw, fe wnaethom ei gyfyngu i 20 o gefnogwyr a gymerodd ran mewn llun-lun arbennig ym Mharc y Scarlets ac roedd y canlyniad yn glawr gwych ochr yn ochr â’n capten Ken Owens ac aelodau o dimau Merched ac Academi’r Scarlets.

Fel rhan o’n cyfres ‘Balchder y Pac’ yn 2019/20, byddwn yn cyflwyno rhai o’r cefnogwyr hynny sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig… gan ddechrau gyda Rebecca, sy’n 21 oed ac o Fryn, sy’n ychydig filltiroedd yn unig o Barc y Scarlets.

Cefnogwr o’r Scarlets o oedran ifanc, lle bu’n gwylio ei harwyr yn chwarae ym Mharc y Strade, mae Rebecca wedi bod yn ddeiliad tocyn tymor ers naw mlynedd. Bu hefyd yn cymryd rhan yng Ngorymdaith Cochyn yn y gêm gyntaf erioed ym Mharc y Scarlets lle bu’n cynrychioli Clwb Rygbi Ser y Doc Newydd.

Dim ond un o’n deiliaid tocynnau tymor ar gyfer 2019/20 yw Rebecca, edrychwch allan am y proffil #BalchderyPac nesaf, i ddod yn fuan!

Ymunwch a’r Pac! ➡️ http://bit.ly/SeasonTickets2019-20

#ynypac