Clybiau Ieuenctid
SESIYNAU HYFFORDDI
Sêr y Scarlets yn eich clwb!
Mae ein Hadran Gymunedol yn cynnig cyfle i bob un o'n clybiau yn y gymuned drefnu i un o chwaraewyr y Scarlets ymweld â nhw. Ry’n ni’n angerddol am y gwahaniaeth y mae rygbi yn gallu ei wneyd ar fywydau plant a theuluoedd y nein cymunedau.
Mae’r sesiynau’n cynnig dwy awr llawn o hyfforddiant i’ch tîm ieuenctid ac mae’n annog plant i gydweithio, datblygu a gwella eu sgiliau rygbi. Fe fydd y sesiwn yn cynnwys:
- Rhyngweithio gyda phlant 7 i 11
- Cyfle i wella sgiliau rygbi
- Sesiwn 20 munud gyda phob grwp oed
- Llofnodion a lluniau gyda’r chwaraewyr
- Cyfle i weithio gyda gwirfoddolwyr y clwb
Fel rhanbarth ry’n ni eisiau bod yn rhan o ddatblygiad ieuenctid a’r llwybr sy’n arwain at rygbi proffesiynol trwy gynnig ymweliad â’r clybiau a fydd yn annog potensial chwaraewyr y dyfodol.
I archebu’ch hymweliad chi cysylltwch trwy ebostio [email protected]