Mae Scarlets yn chwilio am therapyddion brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth ad-hoc ar gyfer gemau gradd oedran dynion a merched.
Cyfrifoldebau
– Gweithio diwrnod gêm
– Gweithio yn ystod ymarferion
– Strapio
– Cymorth cyntaf
– Cymryd nodiadau manwl
Cymwysterau angenrheidiol
Gradd Ffysiotherapi/ Therapi chwaraeon
Cymhwyster Trawma Lubas/WRU
Profiad Strapio
Tystysgrif DBS
Profiad ym maes rygbi yn ddelfrydol
Cysylltwch â [email protected] am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddion y swydd a gwybodaeth tâl.