Scarlets yn cael eu trechu yng Nghaerdydd

CANLYNIADAU
Cardiff Rugby V Scarlets
09 ION 2021 KO 19:00 | Cardiff City Stadium
29
 
20
Guinness PRO14
Att.: 0
CERDYN SGORIO
Cardiff Rugby Scarlets
BUDDUGOLIAETHAU
20
30
COLLEDION
30
20
CYFARTAL
0
0

Llwyddodd Gleision Caerdydd i drechu’r Scarlets a’u hatal o ddathlu eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol wrth iddynt orffen y gêm gyda sgôr o 29-20.

Roedd y Scarlets lawr i 14 o ddynion munudau cyn hanner amser wrth i Liam Williams cael ei ddanfon oddi’r cae gyda cherdyn coch.

Er hyn, fe frwydrodd y Scarlets ymlaen ac yn arwain y sgôr hanner ffordd trwy'r ail hanner, ond y Gleision oedd y tîm cryfaf ar y noson.

Roedd digon o dalent ryngwladol ymysg y ddau dîm, gyda’r Scarlets yn croesawu yn ôl Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Johnny Williams a Gareth Davies.

Ond y tîm cartref wnaeth arwain y sgôr yn gynnar yn yr hanner cyntaf ac yn buddio o gicio Jarrod Evans.

Fe ymatebodd y Scarlets trwy bŵer Jonathan Davies, a groesodd y capten y llinell am ei 50fed cais i’r Scarlets.

Yn dilyn ymosod cryf, roedd newidiad o fewn yr ymosodiad wrth i Dan Jones oedi ei bas i’w canolwr, a lwyddodd i osgoi tacl gan Mathew Morgan i groesi.

Ciciodd Halfpenny y trosiad, ond fe ymatebodd y tîm cartref yn syth gyda Evans yn arwain cais i’r canolwr Willis Halaholo.

Yn dilyn cerdyn melyn i Gareth Davies, llwyddodd Evans i ymestyn y sgôr, ond Jones giciodd tri phwynt arall i’r Scarlets gyda chic hir.

Gyda haneri'r Gleision yn achosi nifer o broblemau, roedd y tîm cartref yn dathlu eu hail gais gyda phedwar munud ar ôl ar y cloc cyn hanner amser. Rey Lee-Lo yn deifio dros y llinell yn y cornel ac Evans yn trosi.

Yn dilyn hynny, derbyniodd Liam Williams cerdyn coch am dacl a welodd dau ben yn taro.

Cic gosb gan Halfpenny wnaeth lleihau’r gap rhwng y ddau sgor, a’r Scarlets yn dechrau’r ail hanner yn gryf. Llwyddodd Gareth Davies i fynd yn agos wrth i’r Scarlets parhau ar eu hymdrech. Yn y diwedd, cawsom eu gwobrwyo pan wnaeth Kalamafoni sgori gais ar ôl neidio allan o’r sgrym.

Gwnaeth trosiad Halfpenny rhoi’r Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf wrth i’r gêm parhau, yn enwedig ar ôl i'r prop Rhys Carré gael ei ddanfon i'r cell cosb am daclo heb ddefnyddio'i freichiau.

Ond yn gyflym fe ddaeth y Gleision yn ôl gyda Tomos Williams yn ffeindio bwlch i allu croesi am drydedd cais ei dim, ac yn dilyn hynny fe ffeindiodd Steff Evans cyfle gyda’r bel ond colli’r cyfle fe wnaeth.

Dyna oedd y cyfle olaf i'r Scarlets

Yn funudau olaf y gêm gyda’r Scarlet yn euog o ildio nifer o giciau cosb, roedd seren y gêm Evans wedi llwyddo i gicio dwywaith yn rhagor cyn i’r chwiban olaf canu.

CAIS
Jarrod Evans
TRO Leigh Halfpenny(2)
Jarrod Evans(4)
GOSB Leigh Halfpenny
Dan Jones
- ADLAM -
Rhys Carre
YC Gareth Davies
- RC Liam Williams
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

Cardiff RugbyScarlets
Rey Lee-Lo
Tomos Williams
Willis Halaholo
CAIS Jonathan Davies
Sione Kalamafoni
Jarrod Evans
TRO Leigh Halfpenny(2)
Jarrod Evans(4)
GOSB Leigh Halfpenny
Dan Jones
- ADLAM -
Rhys Carre
YC Gareth Davies
- RC Liam Williams
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais