Mae’r Scarlets yn gweithredu polisi tocynnau lle:
Bydd y tocynnau a gaiff eu prynu yn y safleoedd anabl dynodedig yn derbyn tocyn ‘gofalwr’ am ddim gyda phob tocyn a brynir yn y safle anabl.
Mae gan Barc Y Scarlets gyfanswm o 64 safle anabl ar gael. Bydd mynediad i safleoedd anabl dynodedig stand y Gogledd drwy’r drysau allanfa wedi eu marcio â 'Lift to platform', a gellir cael mynediad i safleoedd anabl dynodedig standiau Gorllewin a Dwyrain drwy’r drysau hyn. Bydd aelod o staff yn eich tywys i’ch seddi ac maent wedi eu lleoli’n ddigon pell oddi wrth y cae, gan gynnig cysgod rhag y tywydd ond golygfa wych. Ceir mynediad i safleoedd anabl dynodedig Stand y De drwy’r fynedfa yn y lifftiau ac maent wedi eu lleoli ar lefel 2 tu allan i’r Lolfa Quinnell.
Mae’r stadiwm yn cynnig 29 safle parcio anabl yn ogystal. Mae cyfyngiadau ar y nifer o leoedd ac fe’u cynigir ar ddechrau’r tymor ar sail cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01554 783900.
CYFLEUSTERAU I GEFNOGWYR SY’N DEFNYDDIO CADAIR OLWYN
Mae gan y stadiwm 70 sedd cadair olwyn gyda 70 ychwanegol i deulu a gofalwyr. Maent wedi eu lleoli o gwmpas y pedwar stand a cheir mynediad ar lefel llawr trwy ddrysau gydag arwyddion ac yna trwy lifftiau dynodedig yn standiau’r Gogledd a’r De neu ar ochr y cae yn y Dwyrain a’r Gorllewin. Yn ychwanegol, ceir rhagor o stiwardiaid yn y mannau hyn i gynorthwyo cefnogwyr a’u gofalwyr.
Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr sy’n defnyddio cadair olwyn fod yng nghwmni person sy’n gallu cefnogi anghenion person anabl mewn achos o argyfwng. Am y rheswm hwn, mae’r Scarlets yn argymell yn fawr fod y gofalwr yn un ar bymtheg oed neu drosodd.
Mae polisi iechyd a diogelwch y rhanbarth yn gofyn fod y person sy’n defnyddio’r gadair olwyn yn aros yn eu cadair olwyn. Bydd unrhyw wrthodiad yn cael ei ystyried yn groes i bolisi Iechyd a Diogelwch ac mae’n bosib y gofynnir ichi adael y stadiwm / gwrthod eich tocyn.
Mae’r Scarlets yn ystyried anghenion cefnogwyr sydd â nam golwg yn fawr er mwyn iddynt barhau â’u cefnogaeth i’r rhanbarth.
Mae gan gefnogwyr sydd â nam golwg yr hawl i bas gofalwr am ddim. Mae cymhwysedd am y consesiwn hwn yn gofyn am dystiolaeth anabledd neu ddogfen sy’n ardystio eu bod wedi eu cofrestru’n ddall / â golwg rhannol neu ddogfen gymwys gan yr optegydd sy’n cyfateb i ofynion cofrestru.
Rydym yn argymell yn gryf fod pob person sydd â nam golwg sy’n mynychu gêm mewn cwmni person sydd â’r gallu i gynorthwyo gyda’u hanghenion mewn achos o argyfwng. Mae gan y person hwn hawl i bas gofalwr am ddim.
Darperir sylwebaeth dyfarnwr ar glustffonau Ref Talk sydd ar werth yn siop y safle ar y diwrnod. Siaradwch â’r ddesg gwasanaethau cwsmeriaid i drefnu hyn.
Mae hawl gan gŵn tywys i ddod i’r stadiwm ond rydym yn argymell fod cefnogwyr sydd â chŵn tywys yn cysylltu â’r Swyddfa Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01554 783 900 cyn y gêm er mwyn trafod mynediad i’r maes, cyfleusterau o fewn y maes a lles y ci tywys cyn, yn ystod ac yn dilyn y gêm.
Gall cefnogwyr sy’n dioddef o gyflyrau meddygol sy’n cyfyngu arnynt yn gorfforol gael trafferth weithiau wrth gyrraedd eu seddi mewn ambell ran o’r stadiwm. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r henoed sy’n cefnogi ac felly ystyriwn eu hanghenion er mwyn iddynt barhau â’u cefnogaeth ffyddlon i’r clwb.
Gall y rheiny sy’n dioddef o wendid sy’n eu rhwystro rhag dringo nifer o risiau ofyn am sedd yn rhannau sy’n haws i’w cyrraedd yn y stadiwm e.e ger mynediadau ac allanfeydd. Rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau am hyn wrth archebu.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Pholisi Anabledd Parc y Scarlets cysylltwch â 01544 783900