Cwestiynau Cyffredin
Mae Tocynnau Tymor y Scarlets ar werth o ddydd Mercher 12fed Mawrth 2025
Oes, mae prisiau cynnar ar gael i’r rheini ohonoch sy’n adnewyddu tocyn tymor a chwsmeriaid newydd.
Fe fydd y prisiau cynnar yn dod i ben ddydd Sadwrn 31ain Mai, 2025
Bydd, fe fydd ffi archebu o £5 y tocyn wrth adnewyddu neu brynu Tocyn Tymor. Fodd bynnag, fe fyddwn yn hepgor y ffi ar unrhyw docyn a adnewyddir neu brynir erbyn canol nos, Llun 31ain Mawrth.
Fe fydd eich sedd yn ddiogel trwy gydol y cyfnod prisiau cynnar, ac fe fydd yn ddiogel ddydd Llun 30ain Mehefin. Ar ôl y cyfnod hynny nid yw’n bosib i ni gadarnhau y bydd eich sedd ar gael, oherwydd fe fydd pob sedd wag yn mynd ar arwerthiant cyhoeddus.
Fe fydd eich Tocyn Tymor yn cynnwys holl gemau Pencampwriaeth Rygbi Unedig a gemau grŵp Ewropeaidd. Nid yw’n cynnwys gemau ail gyfle URC na EPCR na gemau cyfeillgar. Mae hyn yn gyfystyr ag 11 gêm gartref.
Mae Tocyn Tymor pris cynnar oedolion yn dechrau am £170 yn y Safle Sefyll a £210 yn y seddau safonol. Mae’r prisiau yn ddibynnol ar y lleoliad ym Mharc y Scarlets ac mae tocynnau teulu ar gael hefyd.
Dim ond yn y siop Macron y mae gostyngiadau ar gael a bydd angen ichi ddarparu eich rhif aelodaeth tocyn tymor er mwyn hawlio’r arbedion.
Ydy, mae’n bosib talu am Docyn Tymor gyda Debyd Uniongyrchol - fe allwch ddewis talu dros dair neu chwe mis. Dyddiad olaf paratoi eich Debyg Uniongyrchol yw Mehefin 16eg i dalu dros chwe mis a Medi 16eg i dalu dros dri mis.
Oes, mae cost o £8 i dalu trwy Debyg Uniongyrchol.
Rydym yn annog cynifer o ddalwyr Tocyn Tymor â phosib i symud i system digidol a chael Tocyn Tymor digidol. Os hoffech gerdyn newydd fe fydd cost o £3. Mae’n bosib i ni ail brosesu cardiau 2024-25.
Fe allwch dalu arlein gyda cherdyn debyd neu credyd, neu fe allwch gysylltu â’r swyddfa docynnau os hoffech dalu trwy Debyd Uniongyrchol neu arian parod.
Ydych! Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 202-26 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn £20 oddi ar bris eich Tocyn Tymor. Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd
- fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
- heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
- dros 16 mlwydd oed
Oes! Yn ogystal â chael mynediad i 11 gêm gartref ym Mharc y Scarlets, fe fydd Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys nifer o fuddianau unigryw.
Mae buddianau Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys;
- Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle’r Scarlets yn Mharc y Scarlets cyn yr arwerthiant cyhoeddus
- Mynediad am ddim i holl gemau graddau oed y Scarlets yn ystod 2025-26
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw fydd yn cynnwys rheolwyr, chwaraewyr ac hyfforddwyr y clwb
- Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2025-26
- Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni o’r stadiwm ar ddiwrnod gêm
- Gostyngiad oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets
- Gostyngiad oddi ar becynnau lletygarwch ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gemau’r Scarlets (gemau cynghrair URC arferol a gemau grwp EPCR yn unig)
- Gostyngiad oddi ar docynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, i’w cadarnhau
Mae’n bosib uwchraddio eich tocyn tymor i dderbyn buddianau ychwanegol ac eistedd yn agosach i’r cynnwrf. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 am wybodaeth pellach neu drafod eich opsiynau.
Os ydych yn penderfynu cael Tocyn Tymor digidol, fe fydd yn eich cyrraedd ar ebost o fewn 48 awr i ni dderbyn y taliad. Os ydych wedi dewis derbyn cerdyn newydd, fe fyddwch yn derbyn hwn yn y post o fewn 10 niwrnod gwaith i ni dderbyn y taliad.
Mae Tocynnau Tymor Teulu ar gael ar gyfer 2025-26 yn y Safle Sefyll a Seddau Safonol.
Y prisiau cyfnod cynnar yw;
- 1 Oedolyn + 1 Plentyn = £220
- 2 Oedolyn + 2 Blentyn = £440
Nid oes angen Tocyn Tymor ar blant o dan mlwydd oed. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 os oes angen sedd ychwanegol. Mae’n rhaid i blant 16 oed ac iau fod yng ngofal oedolyn sydd â thocyn tymor i gael mynediad.
Oes, mae yna Docyn Tymor i oedolion ifanc rhwng 16 a 23 mlwydd oed ond fe fydd yn rhaid i chi rhannu dyddiad geni wrth brynu tocyn tymor.
Oes! Mae’r tocyn ‘Sosban’ newydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr newydd ddod yn ddaliwr tocyn tymor am bris cychwynol arbennig o £129 (Pris Cynnar). Mae’r pecyn yn gyfredol am un tymor yn unig gyda’r opsiwn o symud i gategori gwahanol yn yr ail dymor.
Mae’ch rhif wedi ei nodi fel ‘Client Ref’ ar docynnau tymor. Os oes angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â’r swyddfa docynnau.
Os hoffech ddiweddaru eich manylion personol, ac yn methu cael mynediad i’ch cyfrif ar y wefan docynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.